Cysylltiadau defnyddiol
Ni fydd angen i chi dalu am gostau galwadau ffôn sy'n dechrau â 0800 neu 0808. Byddwch yn talu cyfraddau lleol ar gyfer rhifau sy'n dechrau â 0845. Os byddwch yn ffonio o ffôn symudol, efallai y bydd y costau yn amrywio yn dibynnu ar eich darparwr rhwydwaith. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfraddau galwadau cenedlaethol ar gyfer rhifau eraill yn dibynnu ble rydych yn byw.
Llinell Gais Credyd Pensiwn
Ffôn 0800 99 1234
(Ffôn testun 0800 169 0133)
I wneud cais am Gredyd Pensiwn. Rhagor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn
Llinell Ymholiadau Budd-daliadau Anabledd
Ffôn 0800 88 22 00
(Ffôn testun 0800 24 33 55)
Gallwch gael rhagor o gyngor a gwybodaeth am fudd-daliadau ar gyfer pobl anabl a'u gofalwyr ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Uned Lwfans Gofalwr
Ffôn 01253 856 123
(Ffôn testun 01772 899 489)
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar wefan yr Directgov.
Llinell Gymorth yr Asiantaeth Cyn-filwyr
Ffon 0800 169 22 77
(Ffôn testun 0800 169 34 58)
I gael cyngor cyffredinol a help i lenwi ceisiadau am bensiynau rhyfel. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am, bensiynau rhyfel ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr.
Canolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
(preswylwyr AEE yn unig)
Ffôn +44 (0)29 20 42 8635
I gael manylion am linell gymorth Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer galwyr y DU, gweler adran taliadau Tanwydd Gaeaf ein gwefan
Canolfan ar gyfer y rhai nad ydynt yn breswylwyr
Ffôn +44 (0)151 210 2222
(Ffôn testun +44 (0)151 472 6112)
Cewch ragor o wybodaeth am dreth os ydych yn byw dramor ar wefan Cyllid y Wlad
Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol (Opra)
Y Gofrestr Cynlluniau Pensiwn
Ffôn 0191 225 6316
Mae'n darparu gwasanaeth olrhain cynllun pensiwn am ddim. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Opra
Y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau (OPAS)
Ffôn 0845 601 2923
I gael help gyda phroblem, cwyn neu anghydfod gyda threfniant pensiwn preifat neu bensiwn galwedigaethol. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan OPAS


