Pensiynwyr anabl a gofalwyr
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
- Pensiynau Anabledd Rhyfel
- Materion Cyn-filwyr
- Pensiynau Rhyfel Gwraig Weddw/Gwr Gweddw
Lwfans Gweini
Ffôn 0800 88 22 00
Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn 65 oed neu'n hyn ac wedi bod angen help i ofalu amdanoch chi eich hun am o leiaf chwe mis. Os ydych o dan 65 oed, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl.
Mae'n lwfans y gallwch ei gael i'ch helpu gyda gofal personol - fel mynd i'r gwely a dod allan ohono, neu fwyta. Neu efallai bod angen rhywun arnoch i'ch helpu i atal damweiniau yn y cartref. Cewch ragor o wybodaeth am Lwfans Gweini ar wefan yr Directgov neu gallwch gael ffurflen gais o'r Gwasanaeth Pensiwn neu o'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol
Gallwch gael help i lenwi eich ffurflen gais drwy ffonio 0800 88 22 00. Mae'r llinell ar agor o 8.30am i 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am o 1pm ar ddydd Sadwrn. (Mae gwasanaeth ffôn testun hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0800 24 33 55.) Gallwch hefyd ffonio'r rhif hwn i gael gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau anabledd.
Lwfans Gofalwr
Ffôn 01253 856 123
Os ydych yn gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, gallech gael Lwfans Gofalwr.
Cewch ragor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr a sut i wneud cais ar wefan yr Directgov neu ffonio 01253 856 123. Mae'r llinell ar agor o 9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 9.00am i 4.30 ar ddydd Gwener. (Mae gwasanaeth ffôn testun hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 01772 889 489). Gallwch hefyd gael ffurflen gais o'r Gwasanaeth Pensiwn neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol
Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith
Cyflwynwyd Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith ym mis Ebrill 2003. Mae Credyd Treth Plant yn rhoi cymorth i deuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn, p’un a yw’r oedolion yn y teulu yn gweithio ai peidio. Fe’i telir ar ben Budd-dal Plant.
Mae Credyd Treth Gwaith yn darparu cymorth i bobl sy’n gweithio sydd ar incwm isel, yn cynnwys pobl nad oes ganddynt blant.
Cewch ragor o wybodaeth am Gredydau Treth ar wefan Cyllid y Wlad neu ffoniwch Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900.
Pensiynau Anabledd Rhyfel
Ffoniwch linell gymorth am ddim yr Asiantaeth Cyn-filwyr ar 0800 169 22 77
Gallai fod hawl gennych i gael Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych wedi cael eich anafu neu'ch gwneud yn anabl yn ystod cyfnod o ryfel, neu o ganlyniad i'ch gwasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi.
Efallai y gallwch gael amrywiaeth o lwfansau eraill gyda’r Pensiwn Anabledd Rhyfel sylfaenol os ydych yn bodloni amodau arbennig (er enghraifft, anghenion gofal neu symudoledd).
Cewch ragor o wybodaeth am Bensiynau Anabledd Rhyfel a sut i wneud cais ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr neu ffonio Llinell Ddi-dâl yr Asiantaeth Cyn-filwyr ar 0800 169 22 77. (Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0800 169 34 58.) Mae'r llinellau ar agor o 8.15am i 5.15pm, o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.15am i 4.30pm ar ddydd Gwener. Os byddwch yn ffonio o dramor, deialwch +44 1253 866043.
Materion cyn-filwyr
Ffoniwch linell gymorth am ddim yr Asiantaeth Cyn-filwyr ar 0800 169 22 77
Mae'r Asiantaeth Cyn-filwyr yn defnyddio'r term 'cyn-filwr' i olygu unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi - waeth a oeddent wedi gwasanaethu mewn rhyfel neu gyfnod o heddwch, neu'n wirfoddolwyr, milwyr wrth gefn neu aelodau o'r lluoedd cenedlaethol.
Yn ogystal â rhedeg y Cynllun Pensiynau Rhyfel, mae'r Asiantaeth Cyn-filwyr hefyd yn darparu gwybodaeth a chyngor ar unrhyw fater o bryder i gyn-filwyr a'u teuluoedd drwy'r llinell gymorth am ddim.
Yn ychwanegol at yr help y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu, mae llawer o elusennau cyn-wasanaeth hir sefydlog sy'n darparu help i gyn-filwyr. Mae gan rai elusennau rwydwaith cenedlaethol o weithwyr achos lles gwirfoddol, mae eraill yn arbenigo mewn meysydd fel cyflogaeth, tai a helpu cyn-filwyr gydag anableddau meddwl a chorfforol.
Gall yr Asiantaeth Cyn-filwyr hefyd ddarparu help a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau a gallant anfon eich ymholiadau at y sefydliad priodol.
Os ydych yn gyn-filwr, neu'n perthyn i gyn-filwr, a bod angen help arnoch, gallwch ffonio llinell gymorth am ddim yr Asiantaeth Cyn-filwyr ar 0800 169 22 77. (Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0800 169 34 58.) Mae'r llinellau ar agor o 8.15am i 5.15pm, o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8.15am i 4.30pm ar ddydd Gwener. Os byddwch yn ffonio o dramor, ffoniwch +44 1253 866043.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr
Pensiynau Rhyfel Gwragedd/Gwyr Gweddw
Ffoniwch linell gymorth am ddim yr Asiantaeth Cyn-filwyr ar 0800 169 22
77
Os oedd marwolaeth eich gwr, gwraig neu bartner sifil o ganlyniad i wasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi neu ryfel, gallech fod yn gymwys i gael Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw/Gwr Gweddw o dan y Cynllun Pensiynau Rhyfel. Efallai y gallwch hefyd gael lwfansau ychwanegol neu help gyda chostau angladd.
Cewch ragor o wybodaeth am Bensiynau Rhyfel Gwragedd/Gwyr Gweddw ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr


