Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Pensiynau'r Wladwriaeth

Mae'n debygol eich bod eisoes yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymwys y gwnaethoch eu cronni tra'n gweithio. Blynyddoedd cymwys yw'r blynyddoedd y gwnaethoch dalu neu gael eich trin fel eich bod yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y cawsoch eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yn oed os nad oeddech yn gallu gwneud gwaith â thâl.

Efallai eich bod hefyd yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Hwn yw'r elfen ar sail enillion eich Pensiwn y Wladwriaeth a delir ar ben eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â hwn fel SERPS (Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion). Disodlwyd SERPS gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth o fis Ebrill 2002. Mae'r swm a gewch o'r pensiwn hwn yn seiliedig ar gofnod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'ch lefel o enillion pan oeddech yn gyflogai.

Beth os oes bylchau yn fy nghyfraniadau Yswiriant Gwladol?

Efallai nad yw rhai pobl sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 6 Ebrill 1998 yn ymwybodol y gallai fod bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol rhwng Ebrill 1996 a Mawrth 2002. Efallai bod y bylchau hyn wedi effeithio ar eu hawliad i gael budd-daliadau'r wladwriaeth yn cynnwys Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Efallai y bydd nifer fach o'r bobl hyn yn gallu gwella'u hawliad Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol nawr bod Cyllid a Thollau EM wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny. Ymwelwch â gwefan Cyllid y Wlad i gael gwybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Ni fyddwch yn gwsmer a gaiff ei effeithio os:

  • rydych eisoes yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn (£90.70 ym mis Ebrill 2008)
  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 1998

Byddwch wedi cael eich hysbysu’n ysgrifenedig os yw ein cofnodion ni a chofnodion Cyllid a Thollau EM yn dangos y gallech gael eich effeithio.

Buasai’r llythyr wedi eich cynghori:

  • p'un a oes gennych fwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, y gallwch ei lenwi drwy dalu cyfraniadau gwirfoddol
  • sut bydd talu cyfraniadau gwirfoddol yn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • yr opsiynau sydd ar gael i chi ar gyfer talu'r cyfraniadau gwirfoddol hyn
  • faint y gallwch ei dalu ac erbyn pryd y bydd angen i chi dalu

Nid oes rhaid i chi dalu'r cyfraniadau gwirfoddol hyn, ond rydym am wneud yn siwr bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn gallu gwneud eich penderfyniad

Os credwch efallai yr effeithir arnoch ac nad ydych wedi derbyn llythyr gan Y Gwasanaeth Pensiwn dylech gysylltu â'ch canolfan bensiwn neu swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf i gael cyngor

Cewch ragor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar wefan Cyllid y Wlad

Gan fod y Llywodraeth yn bwriadu lleihau nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen ar rywun i fod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, efallai y bydd pobl am ystyried yn ofalus p’un a ydynt am ohirio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 3 tan y bydd hyn wedi dod yn gyfreithiol.

Beth os nad wyf yn cael Pensiwn y Wladwriaeth?

Os nad ydych yn cael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth am nad ydych yn credu y bod gennych ddigon o flynyddoedd cymwys neu os credwch nad ydych yn gymwys am ryw reswm arall, gallwch wneud cais o hyd. Gallai fod hawl gennych i gael Pensiwn y Wladwriaeth a gallech fod yn colli allan. Dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn drwy'ch swyddfa nawdd cymdeithasol neu ganolfan bensiynau leol a fydd yn dweud wrthych ble i gael gwahoddiad i wneud cais.

Rhagor am bensiynau'r wladwriaeth

Gallwch ddarllen neu argraffu neu archebu copi o Pensiynau'r Wladwriaeth - Eich canllaw o'n canolfan adnoddau.

A fydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio yn fy effeithio i?

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth eisoes neu wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi gohirio gwneud cais, ni fydd y sail ar beth mae eich pensiwn yn cael ei gyfrifo yn newid.
Darganfyddwch mwy am ddiwygio Pensiynau

Symleiddio Treth Pensiynau

O 6 Ebrill 2006 cyflwynwyd cyfundrefn treth newydd ar gyfer pensiynau a elwir Symleiddio Treth Pensiynau. Dewch o hyd i fwy am Symleiddio Treth Pensiynau ar wefan Cyllid a Thollau EM