Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Treth Incwm

Lwfansau personol yn gysylltiedig ag oedran

Pan fyddwch yn cyrraedd 65 oed, efallai y gallwch gael lwfans personol yn gysylltiedig ag oedran. Bydd y lwfans hwn yn cynyddu pan fyddwch yn cyrraedd 75 oed.

Lwfans personol yw'r swm o incwm y gallwch ei gael heb orfod talu treth. Mae pawb sydd ag incwm yn cael lwfans personol. Fodd bynnag, os ydych yn 65 oed neu'n hyn, cyhyd â bod eich incwm o dan gyfyngiad penodol, bydd eich lwfans di-dreth yn fwy hael. Gallai'ch incwm gynnwys pensiynau, cyflog a llog ar gynilion.

Nid oes ots beth yw'ch oedran. Os yw'ch incwm yn fwy na'ch lwfans, bydd yn rhaid i chi dalu treth incwm.

Nid oes rhaid i chi wneud cais am y lwfans personol - dylech ei gael yn awtomatig. Bydd eich swyddfa dreth yn gwybod eich dyddiad geni os ydych wedi llenwi ffurflen dreth neu ffurflen gwneud cais. Os nad ydych wedi gwneud hyn a'ch bod yn 65 oed neu'n hyn, dylech roi eich dyddiad geni i'ch swyddfa dreth.

Lwfans Pâr Priod

Os ydych yn briod a naill ai eich bod chi neu’ch gwr, gwraig neu bartner sifil wedi’ch geni cyn 6 Ebrill 1935, gallwch wneud cais am Lwfans Pâr Priod.

Mae Lwfans Pâr Priod yn lleihau'r swm o dreth incwm y mae'n rhaid i bâr priod ei dalu. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich oedrannau a chyfanswm incwm eich gwr o bob ffynhonnell. Rhoddir y lwfans hwn yn nhermau treth.

Os nad ydych chi neu’ch gwr, gwraig neu bartner sifil yn cael y lwfans a’ch bod yn credu y gallech fod yn gymwys, cysylltwch â'ch swyddfa dreth.

Treth a byw dramor
Ffôn +44 (0)151 210 2222

Os ydych yn bensiynwr a'ch bod yn mynd i fyw dramor, bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm o'r DU o hyd. Ond gallai fod hawl gennych i wneud cais am lwfans personol. Os ewch i fyw mewn gwlad sydd â chytundeb treth dwbl gyda'r DU, efallai y gallwch dalu llai o dreth.

Gall cytundebau treth dwbl olygu os ydych yn byw dramor gallech dalu llai o dreth incwm yn y DU. Bydd faint o dreth y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Gallwch gael amrywiaeth eang o daflenni ar dreth incwm o Gyllid y Wlad. Efallai y byddwch yn gweld IR121W Treth incwm a phensiynwyr yn arbennig o ddefnyddiol.

Darllenwch neu argraffwch 'IR121 Treth incwm a phensiynwyr' o wefan Cyllid y Wlad

Gallwch hefyd gael copïau o'r daflen hon drwy ffonio llinell archebu taflenni Cyllid y Wlad ar 0845 9000 404 rhwng 8.00am a 10.00pm saith diwrnod yr wythnos (ar gau ar Dydd Nadolig).

Os ydych yn byw dramor, ymwelwch â gwefan y Ganolfan ar gyfer y rhai nad ydynt yn breswylwyr neu ffoniwch +44 (0)151 210 2222. Mae'r llinell ar agor o 7.30am i 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Budd-daliadau trethadwy ac anhrethadwy

Budd-daliadau y byddwch yn talu treth arnynt:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn galwedigaethol
  • Lwfans Gofalwr (Lwfans Gofal Analluedd yn flaenorol)

Budd-daliadau na fydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt:

  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor
  • Benthyciadau Trefnu
  • Benthyciadau Argyfwng
  • Grant Gofal Cymunedol
  • Lwfans Gweini
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel neu Bensiwn Rhyfel Gwraig Weddw/Gwr Gweddw
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf
  • Taliadau Tywydd Oer
  • Grantiau Cyfleusterau Anabledd a help gydag atgyweirio a gwella’r cartref a roddir gan awdurdodau lleol
  • Taliadau Angladd
  • Taliadau Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith