Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau

Ffôn 020 7211 6200

Gallwch fwynhau mynediad am ddim i gasgliadau parhaol yn y rhan fwyaf o amgueddfeydd ac orielau a noddir gan y llywodraeth a oedd yn arfer codi tâl mynediad, Fodd bynnag, bydd rhai canghennau o amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol yn dal i godi tâl mynediad. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu i fynd i mewn i arddangosfeydd arbennig o fewn amgueddfeydd ac orielau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Gallwch hefyd ffonio llinell ymholiadau'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar 020 7211 6200 i weld pa amgueddfeydd ac orielau sydd yn y cynllun hwn. Mae'r llinell ar agor o 10.30am i 12.00pm ac o 2.30pm i 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.