Wedi ymddeol

Cysylltau perthnasol

Pasbortau & Teithio dramor

Pasbortau
Ffoniwch 0300 222 0000

Os oeddech yn 16 mlwydd oed neu’n hyn ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd (hynny yw cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn y dyddiad hwnnw), rydych yn gymwys i gael pasbort 32-tudalen 10-mlynedd.

I gael rhagor o wybodaeth gallwch ffonio llinell gyngor pasbort y DU ar 0300 222 0000. Mae’r llinell gyngor cenedlaethol hon yn fan cyswllt ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. (Mae ffôn testun hefyd ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 08001 0300 222 0000)

Teithio dramor

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn darparu gwybodaeth i alluogi dinasyddion Prydeinig i fod wedi paratoi'n well ar gyfer eu teithiau tramor drwy'r "Ymgyrch Gwybod Cyn Mynd".

Mae'r Ymgyrch yn darparu gwybodaeth gwerthfawr ar gyfer teithwyr ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar bynciau diogelwch mewn gwledydd tramor.

I ddarganfod rhagor am yr Ymgyrch Gwybod Cyn Mynd ymwelwch â gwefan yr FCO