Trwyddedau teledu am ddim
Ffôn 0845 603 6999
Os ydych yn 75 oed neu'n hyn, mae gennych hawl i fanteisio ar drwydded deledu am ddim. Bydd y Llywodraeth yn talu am eich trwydded deledu os ydych yn 75 oed neu'n hyn a bod gennych deledu. Rhedir y cynllun hwn gan Drwyddedu Teledu.
Cewch ragor o wybodaeth am drwyddedu teledu am ddim ar wefan Trwyddedu Teledu. Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth gwybodaeth Trwyddedu Teledu ar 0845 603 6999. Mae'r llinell ar agor o 8.00am i 9.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac o 8.30am i 2.00pm ar ddydd Sadwrn. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion ar Ceefax.


