Gwaith gwirfoddol
Gallwch wneud gwaith gwirfoddol ar unrhyw oed. Hyd yn oed os gallwch roi awr neu ddwy yr wythnos, gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
P'un a ydych am helpu plant i ddysgu darllen neu helpu ym myd y celfyddydau, chwaraeon neu'r amgylchedd, gallai fod cyfle yn lleol sy'n iawn i chi. Bydd eich sgiliau a'ch profiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud. Ac i chi, gall gwirfoddoli eich helpu i aros yn weithgar, cyfarfod â phobl a chael hwyl.
Mae gennych amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau rydych wedi'u meithrin drwy gydol eich bywyd - sgiliau sy'n werthfawr i lawer o sefydliadau yn eich cymuned. Ac nid oes rhaid iddynt fod yn sgiliau rydych wedi'u hennill o waith. Byddwch yn dda am wneud pethau eraill hefyd. O helpu pobl sy'n cael trafferth symud wrth siopa, neu wrando ar blant ysgol yn darllen, i ddarparu cyngor cyfreithiol i elusen leol, mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad hanfodol at bob agwedd ar fywyd cymuned.
Felly ewch ymlaen - rhowch gynnig arni!
Yng Nghymru gallwch gael gwybodaeth am wirfoddoli ar wefan Cyngor Cymru ar gyfer Gweithredu Gwirfoddol. Gallwch hefyd anfon ebost at y Cyngor ar enquiries@wcva.rog.uk, neu ffonio 029 2043 1700. Gallwch hefyd ffonio Rhaglen Wirfoddoli'r Rhai sydd wedi Ymddeol a Phobl Hyn ar 029 2039 0477. Mae'r ddwy linell ar agor o 9.00am i 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch hefyd ymweld â'r gwefan y Gronfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Cyfleoedd Gwirfoddoli


