Gwaith â thâl
Os ydych yn 60 oed neu’n hyn ac yn cael Credyd Pensiwn, mae gan y Ganolfan Byd Gwaith nifer o raglenni i’ch helpu i ddod o hyd i waith.
Mae pob gwasanaeth y Ganolfan Byd Gwaith ar gael. Er enghraifft mae’r Fargen Newydd 50 a throsodd yn cynnig help unigol wrth chwilio am waith o Ymgynghorydd Personol y Fargen Newydd mewn Canolfan Gwaith neu swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael elfen 50 a throsodd y Credyd Treth Gwaith pan fyddwch yn dechrau gweithio neu’n dod yn hunangyflogedig, a Grant Hyfforddiant mewn gwaith o hyd at £1,500.
Mae’r rhaglen Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion ar gyfer pobl sydd am wella eu sgiliau neu ychwanegu sgiliau newydd i’w helpu i ddod o hyd i swydd. Cysylltwch â’ch Canolfan Gwaith neu’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol i gael rhagor o wybodaeth.
Dewch o hyd i'ch Canolfan Gwaith leol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Cewch ragor o wybodaeth am y Fargen Newydd 50 a throsodd ar wefan y Fargen Newydd
Gallwch hefyd ffonio llinell wybodaeth y Fargen Newydd ar 0845 606 2626. Mae'r llinell ar agor o 7.00am i 11.00pm, saith diwrnod yr wythnos. (Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 606 0680.)


