SERPS Rheolau etifeddu
Roedd SERPS (Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion) hefyd yn cael ei adnabod fel Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Cafodd ei redeg o 6 Ebrill 1978 i 5 Ebrill 2002 pan gafodd ei ddiwygio gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Efallai bod person a oedd mewn cyflogaeth wedi talu i mewn i SERPS.
Telir SERPS o oedran Pensiwn y Wladwriaeth i’r person sydd wedi cyfrannu at y cynllun.
Mae hefyd amodau sy’n caniatáu i rywfaint o hawliad SERPS person neu’r hawliad i gyd gael ei etifeddu gan eu gwr, gwraig neu bartner sifil pan fydd y cyfrannwr SERPS yn marw. Ers 6 Hydref 2002, bydd yr uchafswm y gall person ei etifeddu bellach yn dibynnu ar y dyddiad y byddai eu diweddar wr, gwraig neu bartner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Efallai bod person wedi ymuno â chynllun pensiwn preifat yn hytrach na SERPS.
Gelwir hyn yn ‘eithrio’.
Caiff unrhyw SERPS a enillwyd o fis Ebrill 1978 i fis Ebrill 1997 ei ostwng os gwnaeth y person eithrio yn ystod y cyfnod hwnnw. Gelwir y gostyngiad hwn yn ‘ostyngiad eithrio’.
O fis Ebrill 1997 i fis Ebrill 2002, gallai person sydd wedi eithrio beidio ag ennill unrhyw SERPS o gwbl.
Mae Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn darparu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol mwy hael ar gyfer enillwyr isel a chymedrol. Caiff mynediad hefyd ei ehangu i gynnwys rhai gofalwyr a phobl â salwch ac anabledd hirdymor y mae eu bywyd gwaith wedi cael ei ymyrryd neu ei gwtogi. Nid yw’r rheolau SERPS wedi’u hetifeddu yn berthnasol i Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Yr uchafswm o Ail Bensiwn y Wladwriaeth y gall person ei drosglwyddo i wr, gwraig neu bartner sifil sydd wedi goroesi yw 50%.
Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Darllenwch fwy am Ail Bensiwn y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth) yn ein Adran A i Z, neu ddarllen neu argraffu ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth - eich canllaw
Etifeddu SERPS
Gallwch gael gwybodaeth ychwanegol am etifeddu SERPS drwy ddarllen neu argraffu ein canllaw i SERPS
Cofiwch mai canllaw cyffredinol yn unig yw’r wybodaeth ar y wefan hon, ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith.


