Pensiwn y Wladwriaeth

Eithrio

Os ydych yn enillwr cyflogedig gydag enillion blynyddol dros swm penodol (£4,940 yn 2009/10) ni allwch adael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, gallwch os ydych yn dymuno, ddewis gadael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ac ymuno â chynllun pensiwn preifat yn lle hynny. Gelwir hyn yn ‘eithrio’.

Os byddwch yn dewis eithrio drwy ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol eithrio eich cyflogwr, byddwch chi a'ch cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is ostyngol. Pan fyddwch yn ymddeol, bydd eich ail bensiwn yn dod o gynllun eich cyflogwr ac nid o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Er, bydd y rhan fwyaf o bobl yn parhau i gronni hawliad bach i'r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hefyd.

Gallwch hefyd eithrio gyda phensiwn rhanddeiliaid neu bensiwn personol. Os byddwch yn gwneud hyn, yn hytrach na thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is, unwaith y flwyddyn bydd Cyllid y Wlad yn talu ad-daliad o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn uniongyrchol i mewn i'ch pensiwn. Bwriad yr ad-daliad yw darparu manteision sy'n fras yr un fath â'r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y rhoddwyd y gorau iddo.

Gallwch hefyd ymuno â chynllun Pensiwn Rhanddeiliaid neu gynllun pensiwn personol heb eithrio o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, ond os wnewch hyn, ni fyddwch yn cael yr ad-daliad.

Byddwch fel arfer yn cael rhyddhad treth ar eich cyfraniadau i gynllun pensiwn preifat. Gyda chyfradd treth incwm sylfaenol o 22 y cant, byd pob £100 sy’n mynd i mewn i’ch pensiwn yn costio £78 i chi (yn seiliedig ar y flwyddyn dreth 2009/10). Os byddwch yn talu treth incwm ar gyfradd uwch o 40 y cant, bydd pob £100 sy’n mynd i mewn i’ch cronfa bensiwn yn costio £60 i chi (yn seiliedig ar y flwyddyn dreth 2009/10).

Trefnir rhai cynlluniau galwedigaethol a rhai pensiynau personol ar sail ‘ad-daliadau yn unig'. Golyga hyn mai'r unig arian a delir i mewn i'ch cynllun yw'ch ad-daliad cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Os ydych wedi dewis y math hwn o ail bensiwn, bydd yn rhoi yr un pensiwn i chi yn fras ag y byddech yn ei gael gan Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Efallai y bydd angen i chi o hyd feddwl am p'un a fydd hyn yn ddigon i gynnal y ffordd o fyw y byddwch am ei gael pan fyddwch yn ymddeol.

O 6 Ebrill 2002, mae Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn rhoi pensiwn gwell i gyflogeion sy’n ennill hyd at £31,800 (yn nhermau 2009/10) na SERPS, p’un a ydynt wedi eithrio ai peidio.

Mae’r rhan fwyaf o help yn mynd i’r rhai sy’n ennill llai na £13,900 yn 2009/10.

Bydd person sy’n cyfrannu at bensiwn personol wedi’i eithrio sy’n ennill llai na £13,900 yn 2009/10 mewn blwyddyn dreth hefyd yn cael ychwanegiad Ail Bensiwn y Wladwriaeth ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’r ychwanegiad yn adlewyrchu’r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol mwy hael a ddarperir gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae Deddf Pensiynau 2007

Mae Deddf Pensiynau 2007 yn darparu ar gyfer diddymu'r broses o eithrio ar gyfer cynlluniau pensiwn pwrcasu arian (cyfraniad diffiniedig). Yr amcan yw i gyflwyno y newid hwn yn Ebrill 2012 neu ar ddiwedd y Senedd ar yr hwyraf. Unwaith y bydd hyn yn cymryd effaith, ni fyddwch yn gallu eithrio o'r Ail Bensiwn y Wladwriaeth mwyach drwy:

  • cynllun pensiwn galwedigaethol pwrcasu arian (cyfraniad diffiniedig); neu
  • cynllun pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid

Os ydych eisoes wedi eithrio drwy un o'r ddau math o gynllun:

  • byddwch yn gallu parhau i wneud eich cyfraniadau eich hun i'r cynllun:
  • byddwch yn gallu parhau i gael budd o unrhyw gyfraniadau cyflogwr i'r cynllun; ond
  • ni fyddwch yn gallu cael budd o unrhyw ad-daliad o gyfraniadau Yswyriant Gwladol.mwyach

Bydd eithro drwy gynllun galwedigaethol ar sail cyflog(budd-dal diffiniedig) yn parhau i gael ei ganiatáu, ond bydd dyfodol tymor hir eithrio o'r cynlluniau hyn yn cael eu hadolygu yn y dyfodol.

Am fwy o wybodaeth am ddiwygio pensiynau

Os nad ydych yn si_r beth yw'r dewis gorau i chi, efallai yr hoffech gael rhagor o help. Os hoffech wybod mwy am eithrio, edrychwch ar Pensiynau wedi'u heithrio ­ Eich canllaw (PM7W).