Cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 65 oed yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion ar hyn o 60 oed i ferched. Fodd bynnag, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn newid – bydd yn codi’n raddol o 60 oed i 65 oed o 2010 i 2020.
O 6 Ebrill 2020, 65 oed fydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched.
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd. Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a’r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.
Er mwyn canfod eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhowch eich dyddiad geni yn y cyfrifiannell.


