A allaf ei gael?
Ydych chi:
- Wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
- Ydych chi, eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu credydau Yswiriant Gwladol (YG) neu wedi cael eich credydu â hwy?
Os mai YDW yw'r ateb i'r ddau, gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys y canlynol:
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth
Mae eich hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar nifer y blynyddoedd cymhwyso rydych wedi'u hennill yn ystod eich bywyd gwaith.
Mae blynyddoedd cymhwyso yn seiliedig ar y cyfraniadau YG rydych wedi'u talu, rydych wedi'ch trin fel petaech wedi talu neu wedi'u credydu yn ystod eich bywyd gwaith.
Bywyd gwaith
Eich bywyd gwaith yw'r cyfnod mae'n rhaid i chi fodloni'r amgylchiadau cyfraniadau ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae fel arfer yn:
- 49 oed ar gyfer dynion
- 44 oed ar gyfer merched a anwyd ar 5 Hydref 1950 neu cyn y dyddiad hwnnw
- 45 oed ar gyfer merched a anwyd ar 6 Hydref 1950 neu ar unrhyw ddiwrnod tan 5 Hydref 1951 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw
- 46 oed ar gyfer merched a anwyd ar 6 Hydref 1951 neu ar unrhyw ddiwrnod tan 5 Hydref 1952 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw
- 47 oed ar gyfer merched a anwyd ar 6 Hydref 1952 neu ar unrhyw ddiwrnod tan 6 Hydref 1953 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw
- 48 oed ar gyfer merched a anwyd ar 6 Hydref 1953 neu ar unrhyw ddiwrnod tan 5 Hydref 1954 ac yn cynnwys y dyddiad hwnnw
- 49 ar gyfer merched a anwyd ar 6 Hydref 1954 neu'n ddiweddarach
Cyfrifir eich bywyd gwaith o ddechrau'r flwyddyn dreth lle cyrhaeddoch 16 oed i ddiwedd y flwyddyn dreth cyn yr un lle cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, gallai fod hawl gennych i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gelwir hwn hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth a oedd yn cael ei alw'n gynt yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS). Fel mae'r enw yn ei awgrymu, telir Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn ychwanegol at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Budd-dal Ymddeol Graddedig
Yn seiliedig ar unrhyw gyfraniadau YG y gwnaethoch eu talu rhwng Ebrill 1961 ac Ebrill 1975.
Ychwanegiad Oedran Budd-dal Analluogrwydd Hirdymor i Bensiwn y Wladwriaeth
Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn awtomatig a pharhaol os oeddech yn cael Ychwanegiad Oedran Budd-dal Analluogrwydd hirdymor ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o 8 wythnos yn gorffen ar y diwrnod cyn i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Bydd eich Ychwanegiad Oedran Budd-dal Analluogrwydd hirdymor yn lleihau os byddwch yn cael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Gallai hyn olygu nad yw Ychwanegiad Oedran Budd-dal Analluogrwydd hirdymor yn daladwy.
Bydd y gyfradd a gewch yr un fath â'r swm a delir gyda'ch Budd-dal Analluogrwydd.
Ychwanegiad Oedran
Mae hwn ar hyn o bryd yn 25c yr wythnos ac fe'i telir i unrhyw un sy'n 80 oed neu'n hyn ar ben eu Pensiwn y Wladwriaeth.
Pensiwn y Wladwriaeth uwch ar gyfer pobl ddibynnol
Gallech gael Pensiwn y Wladwriaeth uwch ar gyfer eich gwr, gwraig neu barter sifil.
Cyn 6 Ebrill 2003 gallech gael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer unrhyw blant roedd gennych gyfrifoldeb drostynt, neu os oedd rhywun arall yn gofalu am eich plant ar eich rhan. Os oeddech yn cael y cynnydd hwn cyn 6 Ebrill 2003 bydd yn parhau i gael ei dalu. O 6 Ebrill 2003 gwneir darpariaeth i blant drwy Gredydau Treth Plant.


