Sut ydw i'n gwneud cais?
Fe'ch gwahoddir fel arfer i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth 4 mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad 3 mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn
Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn. Mae hyn yn broses gyflym ac effeithlon ac bydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn derbyn eich taliad cyntaf ar amser. Y rhif i ffonio yw 0800 731 7898 neu yn lle hynny fersiynau Cymraeg a ffôn testun. Yn ystod y galwad byddwch yn cael eich cynghori am Fudd-daliadau/cynnyrch eraill e.e Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor efallai sydd gennych hawl iddynt. Gallwn hefyd ddal unrhyw anghenion cyfathrebu rydych angen fel print bras. Mewn mwyafrif o achosion gall manylion eich hawliad/ dyfarniad gael ei roi ar ddiwedd y galwad.
Gwybodaeth i’w gael wrth law pan rydych yn gwneud eich cais dros y ffôn.
Pan rydych yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth byddwn angen gwybod am wybodaeth penodol gennych chi. I gyflymu y broses gwnewch yn siwr bod gennych y wybodaeth canlynol wrth law pan rydych yn gwneud eich cais.
- Eich rhif yswiriant gwladol
- Rhif cyfeirnod treth – os ar gael
- Manylion am eich priod/partner sifil:-
- Eu rhif yswiriant gwladol
- Eich dyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil
- Enw a chyfeiriad eich cyflogwr ynghyd â’ch cyflogres,rhif staff a lle mae’n briodol y dyddiad wnaethoch rhoi’r gorau i weithio.
- Manylion am fudd-daliadau eraill naill ai rydych chi neu eich priod/partner sifil yn eu derbyn gyda’r rhif cyfeirnod budd-dal os ydych yn ei wybod.
- Eich rhif nawdd cymdeithasol (os ydych wedi byw neu weithio dramor erioed)
- Dyddiadau o unrhyw gyfnodau roeddech mewn ysbyty ac enw a chyfeiriad yr ysbyty
- Manylion y banc rydych eisiau eich taliad gael ei dalu i mewn iddo e.e cod didoli neu rhif rôl /cyfeirnod Cymdeithas Adeiladu
Darllen neu argraffu ffurflen
Gallwch ddarllen neu argraffu ffurflen gais budd-dal Pensiwn y Wladwriaeth. Dylech bostio'r ffurflen hon wedi'i chwblhau i'ch canolfan bensiynau neu'ch swyddfa leol.
Nid yw'r ffurflen hon yn weithredol yng Ngogledd Iwerddon. Am wybodaeth am bensiynau yng Ngogledd Iwerddon gwelwch Department for Social Security Development In Northern Ireland website
Gallwch ffonio llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth. Y rhif i ffonio yw 0800 731 7898 neu yn lle hynny fersiynau Cymraeg a ffôn testun. Oriau agor 8am i 8pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 1pm dydd Sadwrn.


