Pensiwn y Wladwriaeth

Faint y byddaf yn ei gael?

Defnyddiwch y symiau hyn fel canllaw yn unig. Mae'r rheolau ar gyfer budd-daliadau yn golygu y gallai'ch amgylchiadau unigol effeithio ar y swm a gewch. Mae hyn yn golygu na fyddwch bob amser yn gallu gweithio allan yn union faint a gewch drwy ddefnyddio'r symiau hyn.

Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth (yr wythnos o 9 Ebrill 2009)
Yn seiliedig ar eich cyfraniadau YG chi neu gyfraniadau YG eich diweddar ŵr neu wraig £95.25
Yn seileidig ar gyfraniadau YG eich gŵr neu wraig £57.05
Pensiwn Dros 80 Oed anghyfrannol £57.05
Ychwanegiad Oedran £  0.25

Adolygir symiau'r budd-daliadau bob blwyddyn a chaiff y rhan fwyaf o fudd-daliadau eu codi ym mis Ebrill. Fodd bynnag, ni fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei godi os byddwch yn byw mewn rhai gwledydd dramor.

Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol

O 1978 i 2002 talwyd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) ac roedd ond ar gael i gyflogeion.

O 6 Ebrill 2002, diwygiwyd SERPS i ddarparu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol mwy hael ar gyfer enillwyr isel a chanolig, ac i ehangu mynediad i gynnwys rhai gofalwyr a phobl â salwch hirdymor neu anabledd. Gelwir hwn yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Budd-dal Ymddeol Graddedig

Yn seiliedig ar eich Cyfraniadau YG graddedig a dalwyd rhwng Ebrill 1961 ac Ebrill 1975. Ar gyfer pob £7.50 (dyn) neu £9 (merch) o gyfraniadau graddedig a dalwyd byddwch yn cael 11.53 ceiniog (yn 2009/10).

Budd-daliadau uwch ar gyfer pobl ddibynnol

Plant dibynnol

Os oeddech yn cael y cynnydd ar gyfer plant dibynnol cyn 5 Ebrill 2003, gallwch barhau i gael:

  • £8.20 ar gyfer y plentyn hynaf sy'n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant
  • £11.35 ar gyfer pob plentyn arall sy'n gymwys

Ni ellir gwneud cais am y budd-dal hwn ar ôl 6 Ebrill 2003.

Oedolion dibynnol

Gallech gael £57.05 (yn 2009/10) ar gyfer gŵr, gwraig neu berson sy’n gofalu am blant, a delir gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth (yn seiliedig ar eich cyfraniadau YG).