Beth fydd yn digwydd os?
Byddaf yn mynd i'r ysbyty neu bydd rhywun rwy'n gwneud cais ar eu cyfer yn mynd i'r ysbyty?
Ydych chi yn cael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth oherwydd bod un o’r canlynol yn berthnasol i chi?
- mae eich gwraig neu ŵr yn ddibynnol arnoch yn ariannol
- mae rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant yn ddibynnol arnoch yn ariannol.
Os felly, mae'n rhaid i chi ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag y rydych yn mynd i mewn neu ddod allan o'r ysbyty. Rydych hefyd angen dweud wrthym os yw’r person sydd yn ddibynnol arnoch yn ariannol yn mynd i mewn neu ddod allan o'r ysbyty.
Byddaf yn mynd i fyw dramor neu ymweld â gwlad dramor?
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag y gallwch i roi gwybod i ni eich bod yn mynd dramor.
Gallwch barhau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw le yn y byd. Effeithir ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau os ydych yn mynd dramor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wledydd penodol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, neu darllenwch ein cwestiynau cyffredin am fyw dramor yn ein hadran ABC.
Byddaf yn mynd dramor am 3 mis neu lai
Os caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei dalu i mewn i gyfrif, gall hyn barhau. Os cewch eich talu drwy siec gallwch ofyn i ni dalu'r arian i mewn i gyfrif neu byddwn yn talu eich Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU.
Os byddwch yn mynd dramor am gyfnod rhwng 6 a 12 mis
Os telir eich Pensiwn y Wladwriaeth i mewn i gyfrif, gall hyn barhau. Yna gallwch drefnu i drosglwyddo'r arian dramor.
Os nad ydych am i hyn barhau, gallwn anfon siec (mewn sterling) ar ddiwedd bob 4 neu 13 wythnos. Gallwch anfon hwn yn syth atoch chi, eich banc dramor neu rywun arall a apwyntir gennych.
Os byddai'n well gennych, gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad ar ôl i chi ddychwelyd i'r DU.
Byddaf yn mynd dramor am fwy na 12 mis neu'n barhaol
Gallwn anfon eich Pensiwn y Wladwriaeth yn syth i mewn i'ch cyfrif tramor mewn rhai gwledydd.
Os nad yw hynny'n bosib, neu os byddai'n well gennych, gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth i mewn i gyfrif y DU neu gallwn anfon siec atoch (mewn sterling) ar ddiwedd bob 4 neu 13 wythnos. Gallwn anfon hwn yn syth atoch chi, eich banc dramor neu rywun arall y tu allan i'r DU a ddewisir gennych.
Os byddwch i ffwrdd am lai na dwy flynedd gallwn dalu'ch Pensiwn y Wladwriaeth fel cyfandaliad pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU.
Os yw'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn £5 yr wythnos neu lai ac yn cael ei dalu unwaith y flwyddyn, byddwn yn parhau i'w dalu y ffordd hon tra'ch bod dramor.
Efallai y bydd oedi gyda'ch taliad cyntaf ar ôl i chi adael y DU, ond byddwn yn ymdrechu i gadw unrhyw oedi mor fyr â phosibl.
Efallai y bydd yn rhaid gwneud trefniadau arbennig os bydd angen taliadau arnoch ym Mhacistan, India neu Fangladesh.
Gallwch barhau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth unrhyw le yn y byd, ond mewn rhai gwledydd efallai na allwch gael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer eich pobl ddibynnol neu'r cynnydd blynyddol yn eich taliadau. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn i chi fynd dramor.
Byddaf yn dechrau gwaith gwirfoddol?
Nid yw gwaith gwirfoddol fel arfer yn effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth
Byddaf yn mynd i mewn i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio?
Efallai yr effeithir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag yr ewch i mewn i ofal neu gartref a byddwn yn eich cynghori.


