Pensiwn y Wladwriaeth

Cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2005

Os ydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis rhoi'r gorau i'ch cais dros dro er mwyn cronni Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad. Dim ond unwaith y gallwch wneud hyn a dylech fod yn byw yn y DU fel arfer.

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch ganslo eich cais os ydych yn byw yn un o'r gwledydd a restrir ac os ydych yn ddinesydd neu os oes gennych hawl fel arall i fyw yno. Daw'r hawl hon o gytundebau cyd-drefnu rheolau nawdd cymdeithasol rhwng y DU a'r gwledydd hyn.

Y gwledydd perthnasol yw: Awstria, Gwlad Belg, Cyprus, Y Weriniaeth Siec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar, Groeg, Gwlad yr Iâ, Hwngari, yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithuania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Iwerddon, Gweriniaeth Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden a'r Swistir.

Os nad ydych wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth eto, bydd yr hyn a gewch yn y diwedd yn dibynnu ar yr amser y bu i chi oedi cyn gwneud eich cais.

Os dechreuoch oedi cyn gwneud eich cais ar neu ar ôl 6 Ebrill 2005, gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gallwch ddewis cyfandaliad trethadwy unigryw pan fyddwch yn gwneud eich cais yn y pen draw (mae'n rhaid eich bod wedi bod yn oedi cyn gwneud eich cais yn barhaol am 12 mis o leiaf er mwyn cael dewis cyfandaliad.)

Os dechreuoch oedi cyn gwneud eich cais cyn 6 Ebrill 2005:

  • dim ond ar y gyfradd oedd yn gymwys cyn y dyddiad hwnnw (1% ar gyfer pob 7 wythnos y byddwch yn oedi cyn gwneud eich cais, sydd tua 7.5% am flwyddyn gyfan) y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyn 6 Ebrill 2005.
  • gallwch naill ai gael
    • Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar y raddfa bresennol o 1% ar gyfer pob 5 wythnos, neu tua 10.4% am flwyddyn gyfan, neu,
    • cyn belled na fyddwch yn dechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2006, gallwch, yn hytrach, ddewis cyfandaliad trethadwy ar gyfer y cyfnod wedi'r 6 Ebrill 2005, cyn belled a bo'r cyfnod yn barhaol am 12 mis neu fwy

Mae'r swm o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a dderbyniwch pan wnewch gais yn cael ei gyfrifo drwy ychwanegu'r holl Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cronedig. Nid yw wedi'i adlogi, ac ni ddylid edrych arno fel llôg.

Os ydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac am gael gwybod faint y gallwch ei gael pe byddech yn rhoi'r gorau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth am gyfnod (neu os nad ydych wedi gwneud cais amdano eto) ffoniwch Y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 275. (Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ffôn testun ar 0845 60 60 295).