Pensiwn y Wladwriaeth

Budd-daliadau eraill a Threth

Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor, Credydau Treth a Threth Incwm


Sut y caiff Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ei drin ar gyfer Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor a Chredydau Treth?

Caiff Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ei drin yn yr un modd ag unrhyw incwm ymddeol arall yn y budd-daliadau neu'r Credydau Treth hyn. Gallai, wrth gwrs, ennill credyd cynilon ychwanegol ar Gredyd Pensiwn ble bydd eich incwm yn fwy na throthwy credyd cynilon sydd wedi'i osod ar hyn o bryd ar lefel Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol.

Sut y caiff cyfandaliad ar gyfer Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor a Chredydau Threth eu trin?

Fel arfer, os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Budd-dal Treth Cyngor, bydd unrhyw gynilon sydd gennych sy'n fwy na therfynau penodol yn effeithio ar y swm a gewch. Fodd bynnag, bydd cyfandaliadau o ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu hanwybyddu wrth gyfrifo'r budd-daliadau hyn. Os byddwch yn dewis cyfandaliad, ni fyddwch yn cael llai o Gredyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor.

Os byddwch yn cael Credydau Treth ar gyfer yr un flwyddyn treth y byddwch yn dechrau gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth neu ran o'r flwyddyn honno a'ch bod yn dewis cyfandaliad, bydd yn cael ei ystyried fel taliad incwm at ddibenion Credyd Treth. Fodd bynnag gallwch ofyn i ddal eich cyfandaliad yn ôl tan ddechrau'r flwyddyn treth nesaf. Os nad ydych bellach yn cael Credydau Treth yn ystod y flwyddyn ddiweddarach honno, ni fydd yn effeithio ar eich hawl i Gredydau Treth.

Beth os wyf yn gwneud cais am unrhyw un o'r budd-daliadau neu Gredydau Treth hyn tra byddaf yn gohirio fy nghais am Bensiwn y Wladwriaeth?

Os byddwch yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn tra byddwch yn gohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, bydd eich Credyd Pensiwn yn cael ei gyfrifo fel pe baech yn cael Pensiwn y Wladwriaeth. Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud cais am Fudd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Gredyd Treth, bydd unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn gohirio gwneud cais amdano yn cael ei anwybyddu wrth gyfrifo'r budd-daliadau hyn.

Sut y caiff Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol a'r cyfandaliad eu trin ar gyfer treth?

Cyfrifir Pensiwn y Wladwriaeth fel incwm at ddibenion treth. Mae Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn drethadwy yn yr un modd â Phensiwn y Wladwriaeth arferol. Caiff eich cyfrandaliad ei drethu ar y gyfradd treth uchaf sy'n berthnasol i'ch incwm arall. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siwr na fydd y cyfrandaliad yn eich gwthio i'r dosbarth treth uchaf. Er enghraifft, os yw'r gyfradd treth uchaf sy'n berthnasol i'ch incwm arall yn 20%, trethir eich cyfrandaliad ar 20% yn hytrach na chael ei gyfrifo gyda'ch incwm arall a allai eich rhoi yn y band treth 40%.

Os byddwch yn dewis cyfrandaliad, bydd gofyn i chi gwblhau datganiad syml fel y gellir didynnu treth o'ch taliad cyn iddo gael ei dalu i chi. Mae'r swyddfa dreth yn gwirio'r swm ar ddiwedd y flwyddyn treth. Maent yn ad-dalu unrhyw swm sy'n ddyledus i chi os byddwch wedi talu gormod o dreth neu byddant yn gofyn i chi i dalu'r gwahaniaeth os na fyddwch wedi talu digon.

Gallwch ddewis cymryd y cyfrandaliad pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth neu yn ystod y flwyddyn ganlynol. Bydd hyn yn debygol o helpu os bydd eich incwm yn disgyn ar ôl i chi wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft am nad ydych bellach yn gweithio. Fodd bynnag, bydd effeithiau'r dreth yn dibynnu ar eich amgylchiadau arbennig chi. Cysylltwch â'ch swyddfa dreth os oes gennych ymholiadau treth benodol.