Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Yn syml, mae gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu ddewis rhoi'r gorau i'w gael ar ôl i chi wneud cais amdano. Mae hyn yn eich galluogi i gronni incwm ychwanegol neu gyfrandaliad trethadwy.
Pennir oedran Pensiwn y Wladwriaeth gan y gyfraith, sef 60 oed ar gyfer merched a aned ar neu cyn 5 Ebrill 1950 a 65 oed ar gyfer dynion. Ni allwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, hyd yn oed os byddwch yn ymddeol o'ch cyflogaeth cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ar gyfer merched a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dechrau cynyddu o Ebrill 2010 felly erbyn 2020, bydd gan ddynion a merched yr un oedran Pensiwn y Wladwriaeth sef 65.
Bydd oedran pensiwn y wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd. Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a’r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.
Cyfrifwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda'r gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Gwybodaeth bwysig Cynnydd oedolyn dibynnol
Mae cynnydd oedolyn dibynnol yn gynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gwr neu rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant, cyn belled eu bod hi neu ef yn cael eu hystyried i fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol.
O Ebrill 2010, ni fydd hi’n bosib i hawlio codiad i’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn arall.


