Pensiwn y Wladwriaeth

Beth arall y dylwn ei wybod?

Os byddwch yn oedi cyn gwneud eich cais am lai na 12 mis

Bydd rhaid i chi oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis er mwyn cymhwyso i gael y cyfandaliad. Os byddwch yn oedi cyn gwneud cais am lai na 12 mis, gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o hyd. Neu, gallwch ddewis cael ôl-ddyledion pensiwn wedi'u had-dalu'n ôl mewn un taliad heb unrhyw log ychwanegol. Gelwir hyn yn 'ôl-ddyddio'.

Pan na fydd oedi cyn gwneud eich cais yn ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad

Os byddwch yn cael budd-daliadau penodol eraill ar yr un pryd ag y byddwch yn oedi cyn gwneud eich cais am Bensiwn y Wladwriaeth, ni fydd y dyddiau y byddwch yn cael y budd-daliadau eraill hyn yn cyfrif tuag at unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad. Y budd-daliadau hyn yw:

  • Lwfans Gofalwr, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol, Pensiwn Gwraig Weddw, Lwfans Mam Weddw, Atodiad i'r Anghyflogadwy neu unrhyw fath o Bensiwn y Wladwriaeth (heb gynnwys Pensiwn Ychwanegol a Rennir) neu
  • cynnydd mewn unrhyw un o'r budd-daliadau hyn a delir i rywun arall ar eich rhan – nid yw hyn yn berthnasol os nad ydych yn byw gyda'r person sy'n cael y cynnydd, oni bai eu bod yn wr neu'n wraig i chi.

Hefyd, ni fyddwch yn cronni Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad ar gyfer unrhyw ddyddiau na fyddech wedi bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth hyd yn oes os oeddech wedi bod yn ei gael – er enghraifft, os ydych yn y carchar.

Codiadau oedolyn dibynnol

Mae cynnydd oedolyn dibynnol yn godiad yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gwr neu rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant, cyn belled ei bod hi neu ef yn cael eu hystyried i fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol.

Os oes gennych hawl i wneud cais am gynnydd oedolyn dibynnol, ni fyddwch yn gallu gwneud hynny os ydych yn oedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth tan 6 Ebrill 2010 neu’n hwyrach.

Mwy o wybodaeth am gynydd oedolyn dibynnol

Etifeddiaeth

Os byddwch yn marw tra byddwch yn oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, gallai eich gwraig weddw, gwr gweddw neu bartner sifil sy'n goroesi fod â hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad pan fyddant yn gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth eu hun.

Os oeddech eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dewis Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn i chi farw, bydd eich gwraig weddw, gwr gweddw neu bartner sifil sy'n goroesi yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol wedi'i ychwanegu at eu Pensiwn y Wladwriaeth eu hun.

Os oeddech eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi dewis cyfandaliad ac yn ddiweddarach wedi marw, bydd unrhyw swm oedd gennych yn weddill yn ffurfio rhan o'ch ystad yn y ffordd arferol.

Mae'r rheolau sy'n gymwys i wyr gweddw a phartneriaid sifil sy'n goroesi tan fis Ebrill 2010 yn golygu na fydd ganddynt hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad gan eu diweddar wraig neu bartner sifil oni bai bod y gwr gweddw neu'r partner sifil sy'n goroesi hefyd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fydd eu gwraig neu bartner sifil farw.

Bydd swm y Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad taladwy i weddw, wr gweddw neu bartner sifil sy'n goroesi'n cael ei gyfrifo ar sail yr holl o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol yr ymadawedig. Bydd hefyd yn cael ei gyfrifo ar sail rhwng 100% a 50% o unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (ar sail enillion) oedd, neu fuasai, wedi'i dalu i'r ymadawedig, yn dibynnu ar y dyddiad y cyrhaeddodd yr ymadawedig (neu y buasai wedi cyrraedd) oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn wraig sy'n colli eich gwr cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn gallu cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad yn seiliedig ar gyfraniadau eich diweddar wr os byddwch yn ailbriodi cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfrifwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth gyda chyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Pobl sy'n byw dramor

Os ydych yn byw y tu allan i'r DU a'r gwledydd a restrir isod, ac rydych wedi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth eisioes, ni fyddwch yn gallu dewis rhoi i fyny eich Pensiwn y Wladwriaeth i ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad.

Gallwch, fodd bynnag, gael y dewis hwn os ydych yn byw yn y gwledydd canlynol ac yn ddinesydd y DU, yn ddinesydd o un ohonynt hwy neu rydych fel arall ag hawl i fyw yna.

Awstria, Bwlgaria,Cyprus, Denmarc,Estonia, Ffindir, Ffrainc, Gweriniaeth Tsiec,Gibraltar, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ,Gwlad Pwyl, Hwngari, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithuania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portugal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, Yr Eidal, Y Swistir, Yr Almaen.