Beth yw fy newisiadau pan gyrhaeddaf Oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth nid oes rhaid i chi wneud cais amdano ar unwaith. Efallai na fyddwch angen incwm o'ch Pensiwn y Wladwriaeth ar unwaith oherwydd, er enghraifft, rydych yn bwriadu parhau i weithio. Gallwch:
- wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth tra byddwch yn parhau i weithio (ni fydd eich enillion yn effeithio ar swm Pensiwn y Wladwriaeth a gewch ond, gan fod Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei ystyried fel incwm at ddibenion treth, gallai gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth effeithio ar faint o dreth y mae'n rhaid i chi ei dalu)
- ymddeol o'r gwaith a gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth neu
- oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth am ychydig naill aii gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfrandaliad trethadwy pan fyddwch yn gwneud cais, p'un a fyddwch yn parhau i weithio ai peidio.
Os byddwch yn penderfynu oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, bydd eich opsiynau pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw yn dibynnu ar ba mor hir y byddwch yn oedi cyn gwneud cais amdano.
Er mwyn cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol mae'r rhaid i chi oedi cyn gwneud cais am o leiaf pum wythnos.
- Er mwyn cronni Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar 1% o'ch cyfradd Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol am bob pum wythnos y byddwch yn oedi cyn gwneud cais (mae hyn yn cyfateb i tua 10.4% ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn lawn y byddwch yn oedi cyn gwneud cais).Mae swm y Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol â dderbyniwch pan wnewch gais amdano yn cael ei gyfrifo wrth ychwanegu'r Pensiwn Y Wladwriaeth ychwanegol sydd wedi'i gronni. Nid yw wedi'i adlogi, ac ni ddylid edrych arno fel llôg.
- Telir eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol o'r adeg y byddwch yn dechrau ei gael, a bydd yn parhau cyhyd ag y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth. Mae Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cynyddu bob mis Ebrill pan fydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu.
Enghraifft – Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol
Mae Anne yn penderfynu oedi cyn gwneud cais am ei Phensiwn y Wladwriaeth wythnosol o £90. Pan mae hi'n gwneud cais am ei Phensiwn y Wladwriaeth yn y pen draw ar ôl dwy flynedd, mae'n dewis Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm wythnosol o Bensiwn y Wladwriaeth o £108.72 iddi am weddill ei bywyd. (Yn yr enghraifft hon, mae'r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o £18.72 yn seiliedig ar £90 o Bensiwn y Wladwriaeth bob wythnos ar gyfer y cyfnod cyfan. Mewn enghraifft go iawn, bydd y swm yn fwy os bydd cyfradd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu yn ystod y cyfnod hwn).
I gael cyfrandaliad mae'n rhaid i chi oedi cyn gwneud cais am gyfnod parhaol am o leiaf 12 mis (na ellir cynnwys unrhyw gyfnod cyn 6 Ebrill 2005.)
- Taliad trethadwy unigol yw'r cyfrandaliad sy'n seiliedig ar swm Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol y byddech wedi'i gael, a llog. Byddwch hefyd yn
cael eich Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i dalu ar y gyfradd arferol o'r adeg y byddwch yn dechrau ei gael.
- Bydd y gyfradd llog bob amser 2% yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr (felly os oedd y gyfradd sylfaenol yn 4.5%, 6.5% fyddai'r gyfradd llog). Oherwydd y gallai cyfradd sylfaenol Banc Lloegr newid o bryd i'w gilydd, gall y gyfradd llog a ddefnyddir i gyfrifo'r cyfandaliad newid hefyd.
Enghraifft - cyfrandaliad
Mae Ahmed yn penderfynu oedi cyn gwneud cais am ei Bensiwn y Wladwriaeth wythnosol o £105 am dair blynedd.Pan mae'n gwneud cais am ei Bensiwn y Wladwriaeth yn y pen draw, os bydd yn dewis cyfrandaliad, bydd yn cael cyfrandaliad o tua £18,000 (cyn treth) yn ogystal â'i hawl i i gael Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol. (Yn yr enghraifft hon, mae'r cyfrandaliad yn seiliedig ar £105 o Bensiwn y Wladwriaeth a llog o 6.5% ar gyfer y cyfnod cyfan. Mewn enghraifft go iawn, bydd y cyfanswm yn ystyried y newidiadau mewn Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol a'r gyfradd llog.)
Mae rhagor o enghreifftiau yn ‘Eich cyflwyniad i Ohirio Pensiwn y Wladwriaeth' (SPD1)
Gallwch gael gwybod faint y gallwch ei gael drwy oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth eich hun drwy ffonio'r Tîm Rhagolwg Pensiynau ar 0845 3000 168 (Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ffôn testun ar 0845 3000 169).
Os ydych eisoes dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a'ch bod am ddod i wybod faint y gallwch ei gael os byddwch yn rhoi'r gorau i gael eich Pensiwn y Wladwriaeth am ychydig (neu os nad ydych wedi gwneud cais amdano eto) ffoniwch Y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 60 60 275 (Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ffôn testun ar 0845 60 60 295).
Pa mor hir y gallaf oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth? Nid oes uchafswm terfyn amser ar ba mor hir y gallwch oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth er mwyn ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfrandaliad.


