Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Os nad ydych wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth eto a'ch bod am oedi cyn ei gael, nid oes angen i chi ddweud wrthym. Os ydych yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn barod, ond am roi'r gorau i'w gael er mwyn ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad, dylech gysylltu â'ch canolfan bensiynau
Pryd fydd rhaid i mi wneud dewis o naill ai Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfrandaliad?
Dim ond pan fyddwch am ddechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth y mae angen i chi wneud eich dewis. Yna byddwn yn anfon llythyr atoch yn egluro faint o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfrandaliad rydych wedi'i gronni. Bydd gennych dri mis i benderfynu a, tra byddwch yn penderfynu, byddwn yn talu eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol i chi.


