Beth sydd orau i mi?
Eich penderfyniad cyntaf yw p'un a ydych am wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu oedi cyn gwneud cais amdano. Os byddwch yn penderfynu oedi, bydd angen i chi ystyried beth yw'r dewis gorau i chi. Ni fydd angen i chi roi gwybod i ni beth yw eich dewis nes byddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth yn y pen draw.
Os byddwch yn oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn rhoi pensiwn wythnosol uwch i chi am weddill eich oes o'r adeg y byddwch yn gwneud cais. Fel arall taliad unigol yw'r cyfrandaliad a byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth arferol unwaith y byddwch yn gwneud cais amdano.
Chi pia'r dewis a bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch dymuniadau.
Bwriad y wybodaeth ar y wefan hon yw rhoi crynodeb o gynllun Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth i chi. Efallai nad oedi cyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth yw'r dewis gorau i bawb, felly mae'n bwysig cael gwybod rhagor cyn i chi benderfynu.
I helpu, rydym wedi cynhyrchu canllaw manwl ar oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Darllenwch neu argraffwch ein canllaw 'Eich canllaw i Ohirio Pensiwn y Wladwriaeth'
Gallwch hefyd gael y canllaw hwn drwy ffonio 0845 731 32 33 gan ddyfynnu SPD 1W. (Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw gallwch archebu'r canllaw hwn drwy ddefnyddio ffôn testun ar 0845 604 0210 a nodi SPD1).
Mae'n syniad da i chi drafod hyn hefyd gyda'ch ffrindiau a theulu, gydag ymgynghorydd ariannol annibynnol neu sefydliadau eraill sy'n rhoi cyngor ar ddewisiadau pensiwn. (Os ydych ystyried cael cyngor ariannol annibynnol, gallech orfod talu amdano).


