Pensiwn y Wladwriaeth

Beth arall y dylwn ei wybod?

Mae Deddf Pensiynau 2007 wedi gwneud newidiadau i system Pensiynau’r Wladwriaeth y DU. Rhagor o wybodaeth am y diwygiadau hyn.

Os ydych wedi dod o dramor yn ddiweddar neu wedi dychwelyd o dramor, dylech edrych ar y rheolau ychwanegol am ddod o dramor am Bensiwn y Wladwriaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn o dramor dros yr e-bost, ffôn neu ffacs.

Os ydych yn byw y tu allan i’r DU ac am gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth cysylltwch â Phreswylfa Cyllid a Thollau EM

Os ydych o fewn 4 mis a 4 diwrnod o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych wedi cael pecyn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn ar unwaith.

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Mae’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn rhan o'ch Pensiwn y Wladwriaeth sy’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) rydych wedi'u talu, neu wedi’u cael fel credydau, yn ystod eich bywyd gwaith.

Bydd eich rhagolwg yn dweud wrthych yng ngwerth arian heddiw:

  • swm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth rydych eisoes wedi’i ennill
  • swm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ddisgwyl ei gael pan fyddwch o oedran Pensiwn y wladwriaeth yn seiliedig ar beth rydych wedi’i ennill eisoes a beth y gallech ei ennill cyn i gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • os oes unrhyw beth y gallwch wneud i wella’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Budd-dal Ymddeol Graddedig

Budd-dal Ymddeol Graddedig yw’r rhan o’ch Pensiwn y Wladwriaeth sy’n dibynnu ar y swm o gyfraniadau YG graddedig y gallech fod wedi'u talu rhwng 1961 a 1975 pan oedd y cynllun yn weithredol.

Bydd eich rhagolwg yn dweud wrthych yng ngwerth arian heddiw faint o unedau Budd-dal Ymddeol Graddedig sydd gennych a beth yw eu gwerth.

Os ydych yn weddw, wedi ysgaru neu fod eich partneriaeth sifil wedi'I diddymu

Gellir defnyddio cyfraniadau YG eich diweddar neu gyn _r, wraig neu bartner sifil weithiau i'ch helpu i gael Pensiwn y Wladwriaeth gwell.

Bydd y rhagolwg yn dweud wrthych yng ngwerth arian heddiw y swm o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei ddisgwyl drwy ddefnyddio cyfraniadau YG eich diweddar neu gyn _r neu wraig, os bydd hyn yn rhoi Pensiwn y Wladwriaeth gwell i chi na defnyddio eich cyfraniadau eich hun.