Pensiwn Dros 80 Oed
- Beth ydyw?
- A allaf ei gael?
- Beth arall y dylwn ei wybod?
- Faint y byddaf yn ei gael?
- Sut ydw i'n gwneud cais?
- Beth fydd yn digwydd os?
- Rhagor o wybodaeth
- Help arall
Beth ydyw?
Pensiwn anghyfrannol i bobl sy'n 80 neu'n hyn sydd ag ychydig o Bensiwn y Wladwriaeth neu ddim o gwbl yw Pensiwn Dros 80 Oed.
A allaf ei gael?
Ydych chi:
- yn 80 oed neu'n hyn?
- Ddim yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu'n cael llai na Phensiwn y Wladwriaeth llawn am nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)?
- Yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban ar hyn o bryd?
Os mai YDW yw'r ateb i'r cwestiynau hyn, a'ch bod wedi byw ym Mhrydain Fawr am gyfanswm o 10 mlynedd neu fwy mewn cyfnod parhaus neu 20 mlynedd cyn neu ar ôl eich pen-blwydd yn 80 oed, gallech wneud cais am y Pensiwn Dros 80 oed.
Beth arall y dylwn ei wybod?
Os ydych ond yn cael Pensiwn y Wladwriaeth is, efallai y gallwch gael rhagor o arian os byddwch yn gwneud cais am Bensiwn Dros 80 Oed. Y swm uchaf o Bensiwn Dros 80 Oed y gallwch ei gael yw tua 60% o Bensiwn y Wladwriaeth.
Faint y byddaf yn ei gael?
Defnyddiwch y swm hwn fel canllaw yn unig. Mae'r rheolau ar gyfer budd-daliadau yn golygu y gall eich amgylchiadau unigol effeithio ar y swm a gewch. Mae hyn yn golygu na fyddwch bob amser yn gallu gweithio allan faint yn union y byddwch yn ei gael drwy ddefnyddio'r symiau hyn.
Swm wythnosol: £54.35 o fis 2008/09.
Sut ydw i'n gwneud cais?
Anfonir ffurflen gais ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth atoch fel arfer bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os na fyddwch wedi derbyn un dri mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn
Ar gyfer budd-daliadau eraill, gwnewch gais ar unwaith. Os byddwch yn oedi gallech golli budd-dal.
Mae'n bwysig ein bod yn gallu bod yn siwr pwy ydych chi pan fyddwch yn gwneud cais. Efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i ategu'r wybodaeth a roddwch. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen neu argraffu'r daflen ganlynol o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau - GL25W Sut i brofi eich hunaniaeth ar gyfer nawdd cymdeithasol.
Beth fydd yn digwydd os?
Byddaf yn mynd i'r ysbyty neu mae rhywun rwy'n gwneud cais ar eu cyfer yn mynd i'r ysbyty?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag yr ewch i mewn i'r ysbyty neu ddod allan
ohono. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrthym os bydd rhywun rydych yn cael budd-dal ar eu cyfer yn mynd i mewn i'r ysbyty.
O Ebrill 2006 nid yw eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei effeithio wrth fod mewn ysbyty, hyd yn oed os yw am fwy na 52 wythnos.
Rwy'n rhan o deulu'r lluoedd arfog sy'n byw dramor neu sy'n ymweld â gwlad dramor?
Mae'r rheolau ar gyfer mynd dramor yr un fath ag unrhyw un arall sy'n mynd dramor. Gweler uchod.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch ddarllen neu argraffu nifer o ganllawiau a ffurflenni o'r wefan hon. Gallwch hefyd ofyn am gael copïau wedi'u hanfon atoch drwy'r post. Gweler yr adran Canllawiau a Ffurflenni yn ein canolfan adnoddau.
Ydych chi wedi clywed am Gredyd Pensiwn?
Rhagor o help
Lwfans Gweini ar wefan yr Directgov
Bonws Nadolig ar wefan Directgov
Taliad Tywydd Oer ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith
Cymhorthdal Incwm ar wefan yr Ganolfan Byd Gwaith
Pensiwn y Wladwriaeth
Taliad Tanwydd Gaeaf
Credyd Pensiwn
Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.


