Beth sy'n newid?
Y newidiadau i reolau SERPS wedi'u hetifeddu
Ym 1986 newidiodd y Llywodraeth y gyfraith i leihau'r swm o SERPS y gall person gweddw ar ôl mis Ebrill 2000 ei etifeddu gan eu diweddar wr/gwraig hyd at uchafswm o 50%. Yn flaenorol gallai gwragedd gweddw a gwyr gweddw etifeddu uchafswm o 100% o'r pensiwn SERPS.
Ond, am nifer o flynyddoedd ar ôl 1986 cafodd rhai pobl wybodaeth anghywir neu gamarweiniol am y newid a hwyrach eu bod wedi cynllunio ar gyfer eu dyfodol ar y sail honno.
Felly, gohiriodd y Llywodraeth y newidiadau o fis Ebrill 2000 i fis Hydref 2002. Yna cyhoeddodd gynlluniau pellach ar gyfer y ganran uchaf o SERPS y gellid ei throsglwyddo i wraig weddw/gwr gweddw, pan fo rhywun sydd wedi cyfrannu i'r cynllun yn marw. Mae'r rheolau hyn wedi bod yn gymwys ar gyfer partneriaid sifil ers 5 Rhagfyr 2005.
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar wragedd gweddw
Mae uchafswm canran y pensiwn SERPS y gall gwyr gweddw neu bartneriaid sifil ei hetifeddu yn dibynnu ar:
- oedran Pensiwn y Wladwriaeth eu diweddar wr
Gallent etifeddu pensiwn SERPS:
- pan fyddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- cyn iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydynt yn cael Lwfans Rhiant Gweddw am fod ganddynt blentyn dibynnol
Sut bydd y newidiadau yn effeithio ar wyr gweddw a phartneriaid sifil
Mae uchafswm canran y pensiwn SERPS y gall gwyr gweddw ei hetifeddu yn dibynnu ar:
- oedran Pensiwn y Wladwriaeth eu diweddar wraig neu bartner sifil
- dyddiad yr oeddent yn weddw neu'n brofedigaethus
Gallant etifeddu SERPS gan eu diweddar wraig neu bartner sifil os oeddent hwy a'u diweddar wraig neu bartner sifil dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu eu diweddar wraig neu bartner sifil farw. Gallant hefyd etifeddu SERPS os ydynt o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ar yr amod eu bod yn cael Lwfans Rhiant Gweddw
Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Darllenwch fwy am Ail Bensiwn y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth), neu ddarllen neu argraffu ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth – eich canllaw
Etifeddu SERPS
Gallwch gael gwybodaeth ychwanegol am etifeddu SERPS drwy ddarllen neu argraffu ein canllaw i SERPS
Cofiwch mai canllaw cyffredinol yn unig yw'r wybodaeth ar y wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodol o'r gyfraith.


