Termau defnyddio

Ymwadiad

Cofiwch mai dim ond canllaw cyffredinol ar gyfer budd-daliadau a chynlluniau yw'r wefan hon ac nad yw'n ddatganiad awdurdodol o'r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y wybodaeth sydd ar gael ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, gall newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan hon yn llai cywir dros gyfnod o amser.

Cysylltiadau i safleoedd eraill

Mae'n gwefan yn cynnwys cysylltiadau i safleoedd eraill. Yn bennaf mae'n arwyddbost i adrannau eraill y llywodraeth ond hefyd yn arwyddbost i wefannau sy'n cael eu rhedeg gan drydydd parti. Nid ydym yn gyfrifol am ymarferion preifat unrhyw un o'r safleoedd hyn. Rydym yn awgrymu eich bod yn darllen y datganiadau preifat ar wefannau eraill rydych yn ymweld â hwy cyn rhoi eich manylion personol.

Ni all y Gwasanaeth Pensiwn gymryd unrhyw gyfrifoldeb am y cynnwys neu diogelwch y wybodaeth a roddir gan y wefan allanol rydym yn cysylltu â. Ni ddylai ein cysylltiadau iddynt gael eu hystyried fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Hefyd nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Defnydd o gwcis

Weithiau rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon. Rydym yn eu defnyddio i asesu sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r safle hon, fel ein bod yn gallu ei gwneud yn haws i chi ei defnyddio. Ni allwn ddefnyddio’r cwcis i ddarganfod pwy ydych neu ple rydych. Nid ydym yn defnyddio ‘r wybodaeth rydym yn ei gael o’r cwcis hyn gyda unrhyw un arall. Mae’r cwcis yn dod i ben cyn gynted a phosibl ar ôl i chi adael y wefan.

Ein polisi e-bost

Mae cyfleusterau e-bost yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ffordd o wneud ymholiadau cyffredinol. Mae'n ddrwg gan yr Adran na all ymgymryd a chyfnewidiadau hir drwy'r e-bost ag unigolion gan nad yw hyn yn ffordd ddiogel o anfon manylion personol.

Fodd bynnag, os byddwch yn cysylltu â ni drwy'r e-bost ac na allwn ymateb yn yr un ffordd, byddwn yn ateb drwy ffyrdd eraill fel dros y ffôn neu drwy'r post.

Hawlfraint y Goron 2004

Mae'r deunydd a ddangosir ar y safle hwn yn destun gwarchodaeth hawlfraint y Goron oni bai y datgennir yn wahanol. Gellir ailgynhyrchu deunydd sydd wedi ei warchod gan hawlfraint y Goron yn ddi-dâl mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng heb fod angen cael caniatad penodol. Mae hyn yn amodol ar i'r deunydd gael ei ailgynhyrchu yn gywir ac nad yw yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd amharchus neu yn gamarweiniol. Ple mae'r deunydd yn cael ei gyhoeddi neu eu anfon i eraill, mae'n rhaid i ffynhonnell a statws yr hawlfraint gael ei gydnabod.

Nid yw'r caniatad i ailgynhyrchu deunydd sydd wedi ei warchod gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y safle sydd yn cael ei adnabod fel hawlfraint i drydydd parti. Mae'n rhaid cael caniatad i gynhyrchu y fath ddeunydd gan ddeiliaid yr hawlfraint cysylltiedig.

Am fwy o wybodaeth am bolisi hawlfraint y Goron ac ar drwyddedu hawlfraint y Goron, gweler OPSI Guidance Notes - Publishing and Copyright sydd yn cael ei gyhoeddi gan OPSI ac Argraffwyr y Frenhines ar gyfer yr Alban.