Winter Fuel Payments

Cwestiynau a ofynir yn aml

Taliadau Tanwydd Gaeaf (Cwestiynau Cyffredinol)

Ar gyfer Gaeaf 2008/09

Ar gyfer Gaeaf 2009/10

Pam eich bod chi'n gosod yr "wythnos gymhwyso" cyn y gaeaf?

Rydym ni'n gosod yr wythnos gymhwyso cyn y gaeaf i ganiatáu digon o amser i ni brosesu'ch hawliad fel y byddwch chi'n derbyn eich taliad mewn pryd i'w ddefnyddio pan fydd ei wir angen arnoch chi.

Faint o amser sydd gen i i dalu siec i mewn?

Os byddwn ni'n anfon siec i'ch cyfeiriad gartref, bydd angen ichi ei thalu i mewn yn eich cangen Swyddfa'r Post leol cyn pen mis o'r dyddiad sydd wedi'i nodi arni, neu fe fydd angen i chi ei thalu i mewn i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu cyn pen chwe mis o'r dyddiad a nodir arni.

Mae fy amgylchiadau wedi newid. Beth ddylwn i ei wneud?

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau cyn gynted â phosibl, er enghraifft os ydych chi wedi symud ty, os ydych chi wedi newid manylion eich cyfrif banc neu os nad oes gennych chi hawl i fudd-dal nawdd cymdeithasol mwyach. Bydd hyn yn ein helpu i dalu’r swm cywir o Daliad Tanwydd Gaeaf i chi. Fel arall, efallai na chewch chi eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig, neu efallai bydd y swm rydych yn ei dderbyn yn anghywir.

Gwiriwch eich manylion ar unrhyw lythyr rydym wedi’i anfon atoch yn ddiweddar ynglyn â’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu’ch budd-dal. Os yw’ch cyfeiriad neu’ch cod post yn anghywir, ysgrifennwch at y ganolfan bensiynau, swyddfa Canolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol sydd fel arfer yn delio â’ch pensiwn neu’ch budd-dal.

Bydd angen i chi hefyd roi gwybod i’ch canolfan bensiynau, swyddfa Canolfan Byd Gwaith, Canolfan Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol, er enghraifft, os bydd eich cyfeiriad neu fanylion eich cyfrif banc yn newid yn y dyfodol. I gael manylion eich swyddfa agosaf, edrychwch o dan Jobcentre Plus, Jobcentre neu swyddfa nawdd cymdeithasol yn eich llyfr ffôn lleol.

Mae angen i chi gysylltu â ni os gwnaethoch gais am Daliad Tanwydd Gaeaf y llynedd, ac os yw’ch amgylchiadau wedi newid, megis newid cyfeiriad, manylion cyfrif banc newydd, neu os ydych chi bellach yn un o’r grwpiau hynny na allant gael Taliad Tanwydd Gaeaf. (Gwelwch isod)

Ysgrifennwch at y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf yn y cyfeiriad canlynol:

Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ty Southgate
Canol Caerdydd
Post Brenhinol
Caerdydd
CF91 1ZH

Ni allwch chi gael Taliad Tanwydd Gaeaf os, yn ystod yr wythnos gymhwyso:

  • rydych yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth am ddim fel claf mewnol, a chithau wedi bod yn derbyn triniaeth o’r fath am fwy na 52 wythnos;
  • rydych yn byw gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner a hwythau’n cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn berthnasol i incwm) a’u bod dros 60 oed (byddant yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf ar eich rhan;
  • rydych yn y ddalfa yn bwrw dedfryd a bennwyd gan lys (nid ydych ar remand);
  • rydych yn destun rheolaeth fewnfudo a ddim yn gymwys i gael help oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (er enghraifft, ceisiwr lloches a wnaeth gais am loches yn y man y cyrhaeddodd Brydain ar ôl 3 Ebrill 2000); neu
  • rydych yn byw mewn cartref gofal drwy’r wythnos gymhwyso a’r 12 wythnos cyn hynny, a chithau’n cael Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn berthnasol i incwm).

Rwy'n cael Lwfans Byw i'r Anabl ond nid wyf yn 60 oed eto. A ydw i'n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf?

Nac ydych. Dim ond i bobl 60 oed a hŷn mae Taliadau Tanwydd Gaeaf. Mae help eisoes ar gael, trwy fudd-daliadau anabledd a’r premiwm anabledd mewn Cymhorthdal Incwm, i gydnabod y costau ychwanegol, gan gynnwys gwresogi, y gallai pobl anabl eu hwynebu. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ymestyn y cynllun Taliadau Tanwydd Gaeaf i bobl dan 60 oed.

Rwy'n cael budd-daliadau. A ddylwn i lenwi ffurflen gais?

Nid oes angen i chi lenwi ffurflen gais i gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych chi’n 60 oed neu’n hyn ac yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid yw hyn yn cynnwys Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor na Budd-dal Plant).

Fe ddylech chi fod wedi derbyn eich Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2009/10 yn awtomatig os oeddech chi’n 60 oed neu’n hyn ac yn derbyn un o’r budd-daliadau uchod yn ystod yr wythnos gymhwyso, sef 21 i 27 Medi 2009. Os nad ydych chi wedi derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Nid wyf yn derbyn budd-daliadau. A ddylwn i gwblhau ffurflen gais?

Os ydych yn 60 oed neu’n h_n ac ddim yn cael unrhyw fudd-daliadau nawdd cymdeithasol neu rydych ond yn cael Budd-dal Tai, neu Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant yn ystod yr wythnos gymhwyso efallai y byddwch angen cwblhau ffurflen gais.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Tanwydd Gaeaf am gyngor

Rwy'n byw dramor. Alla' i hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf?

Os oeddech chi'n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon cyn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir, efallai y gallwch chi barhau i dderbyn taliadau tra'n byw yn y wlad honno.

Os ydych yn symud i wlad arall tu allan i’r AEE neu’r Swistir ni allwch barhau i dderbyn taliad.

Gall pobl sy’n gwneud cais am Daliadau Tanwydd Gaeaf fel preswylwyr mewn gwlad AEE arall neu’r Swistir gael eu troi i lawr os oeddent yn y ddalfa o dan ddedfryd yn ystod yr wythnos gymhwyso perthnasol. Mae’r eithrio hwn yn yn cael ei weithredu yn unig i’r wythnosau cymhwyso o flwyddyn 2000/01.

Dewch o hyd i fwy am dderbyn Taliadau Tanwydd Gaeaf tra’n byw mewn gwlad AEE neu’r Swistir

Rwy'n byw mewn gwlad a ymunodd â'r UE ar 1 Mai 2004. Alla' i hawlio ?

Gallwch. Gallwch chi barhau i gael Taliad Tanwydd Gaeaf os gwnaethoch chi dderbyn taliad o'r blaen.

Ar gyfer Gaeaf 2008/09

Pryd y bydda' i'n cael fy nhaliad?

Gwnaethom dalu taliadau awtomatig dros nifer o wythnosau o fis Tachwedd 2008.

Os gwnaethoch gais am Daliad Tanwydd Gaeaf cyn y dyddiad terfynol, sef 30 Mawrth 2009, ac nad ydych wedi derbyn eich taliad eto, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf

Pam mai dim ond £125 rydw i wedi'i dderbyn?

Dim ond £125 rydych chi'n gymwys i'w gael os, yn ystod yr wythnos gymhwyso, nad oeddech chi'n cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith ac roedd yna bobl eraill yn eich cartref a oedd yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf.

Mae fy nhaliad yn anghywir. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych yn meddwl bod eich taliad yn anghywir, cysylltwch â’r swyddfa a wnaeth eich taliad. Dylai’r cyfeiriad a rhif ffôn fod ar ben y cyfathrebiad a dderbynioch. Neu, os nad oes unrhyw fanylion cyswllt ar gael efallai gallwch gael help drwy gysylltu â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf

Mae fy mhartner wedi'i dalu yn barod. A ddylwn i felly gwneud cais?

Nid oes angen i chi wneud cais os yw eich partner yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm ac wedi derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf. Bydd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dalu i’ch partner.

Os nad yw eich partner yn cael un o’r budd-daliadau hyn ac nid ydych chi yn derbyn unrhyw fudd-dal nawdd cymdeithasol neu rydych ond yn cael Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Cyngor neu Fudd-dal Plant byddwch angen gwneud cais.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Tanwydd Gaeaf am gyngor

Ar gyfer Gaeaf 2009/10

Pryd y bydda' i'n cael fy nhaliad?

Os ydych yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf ac yn anfon eich ffurflen gais atom, wedi’i chwblhau’n gywir, cyn 25 Medi 2009, dylech dderbyn eich taliad cyn Nadolig 2009.

Bydd pobl sydd wedi derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, ac nad yw eu hamgylchiadau wedi newid, yn derbyn eu taliadau yn awtomatig cyn Nadolig 2009.

Bydd ffurflenni cais ar gyfer gaeaf 2009/10 ar gael ar y wefan hon o ganol mis Gorffennaf 2009.