Cyflwyniad
Taliad Tanwydd Gaeaf
Y dyddiad terfynol ar gyfer hawliadau am Daliadau Tanwydd Gaeaf oedd 30 Mawrth 2008. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn â’ch hawliad ar gyfer gaeaf 2007/08 cysylltwch â’r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf. Dylech gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Bydd y Llywodraeth yn gwneud Taliadau Tanwydd Gaeaf eto i’r rhan fwyaf o bobl 60 oed neu hyn ar gyfer Gaeaf 2008/09. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar y safle hwn o fis Gorffennaf 2008.
Bydd taliad ychwanegol ar gyfer gaeaf 2008/09 o £50 ar gyfer cartrefi sy’n cynnwys rhywun sydd rhwng 60-79 mlwydd oed a £100 ar gyfer rhywun dros 80 mlwydd oed. Bydd hyn yn cael ei dalu gyda’r Taliad Tanwydd Gaeaf.
O ganlyniad i ddiwygio pensiynau yr oedran cynharaf y bydd dynion a merched yn derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf yn codi yn raddol i 65 rhwng 2010 a 2020.

